Cwestiynau Cyffredin
Perchennog pob Pwynt Gwefru fydd yn pennu tâl am wefru yno. Mewn rhai achosion, Evolt Network fydd hwn ac mewn rhai achosion bydd perchennog arall. Ym mhob achos, bydd y pris wedi’i arddangos ynamlwg ar flaen y Pwynt Gwefru yn ogystal ag ar y wefan ac yn yr ap wedi lansio hwnnw.
Wrth gofrestru cyfrif, gofynnir i chi greu taleb Debyd Uniongyrchol â ni; dyma sut codir arnoch am wefru. Pan ddefnyddiwch Bwynt Gwefru gyda rhestr brisiau, caiff gwerth y sesiwn ei ychwanegu at eich cyfrif ar ddiwrnod olaf pob mis a chewch anfoneb drwy e-bost yn dangos eich balans. Yna, caiff y taliad ei gymryd yn awtomatig o’ch cyfrif heb fod angen i chi wneud unrhyw beth.
Mae ymuno â’r rhwydwaith am ddim. Nid oes pris tanysgrifio misol na blynyddol; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen talu am wefru mewn rhai pwyntiau gwefru.
Gallwch gofrestru trwy ymweld â hafan ein gwefan a dewis “cofrestru” neu cliciwch ar here.
Rhwydwaith ail-wefru cerbydau trydanol ydy’r Evolt Network, yn y DU, yr Almaen ac Awstria. Mae’n rhan o grŵp SWARCO, sydd hefyd yn berchen ar eVolt, cyflenwr Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydanol.
Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: [email protected] / 0808 1750 075